Amdanon ni
‘Rydym wedi derbyn arian i gynyddu ac i foderneiddio’r adnoddau sydd eisoes yn bodoli. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu ehangu ein gwasanaeth i’r sectorau cyhoeddus a phreifat, yn osystal ag i’r gymuned leol yn gyffredinol.
Mae Canolfan y Myndd Du yn llawer mwy na Chanolfan Gymunedol
Wrth galon y gymuned leol, mae’r Ganolfan yn siop un-stop ar gyfer preswylwyr Brynaman a’r ardal gyfagos. Mae’n darparu lleoliad sydd ddim yn fygythlyd, lle y gall pobl lleol daro i mewn am gwpaned o de, am bryd o fwyd neu jyst i ffeindio mas beth sy’n digwydd yn y pentref. Mae’r Ganolfan yn cynnig dosbarthiadau a chyrsiau addysg, llyfrgell rhan-amser, meddygfa, meddygfa’r heddlu, gwasanaethau allgymorth, Undeb Gredyd ac adnoddau TG a mynediad at y rhyngrwyd.
Mae Bwyty y Mynydd Du – lle cyffyrddus ac anffurfiol i gwrdd â ffrindiau a’r teulu am frecwast, cinio, paned o de neu ddim ond coffi a sgwrs – wedi leoli yn yr estyniad. Mwynhewch ein bwyd cartref traddodiadol, yn ogystal â’r prydau blasus arbennig sy’n amrywio o ddydd i ddydd.
‘Rydym ar agor o 10.00yb tan 2.00yh, dydd Llun i ddydd Gwener, ac hefyd ar gael ar gyfer digwyddiadau preifat.
Mae ystod o ystafelloedd amrywiol, i siwtio anghenion pawb, ar gael i’w llogi.
Mae’n gyfnod cyffrous yn hanes pentref Brynaman a’r cyffiniau ac ‘rydym yn awyddus i ddatblygu twf cynaliadwy ac economaidd, drwy Dwristiaeth, yn ogystal â bod yn Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Addysg.
Dewch i gwrdd â’n Staff.....
Mae gennym dîm gwych yma yn y Ganolfan, ac mae pob un ohonynt wastad yn barod i’ch helpu.
Tîm y Ganolfan

Pauline Thomas Mathew Hewlett
Pauline yw ein Swyddog Cyllid, a hi sy’n delio â holl gyfrifon y Ganolfan. Mae Pauline wedi gweithio yma am nifer o flynyddoedd ac yn brofiadol iawn yn eu gwaith.
Mae Mathew yn gweithio yn y dderbynfa ac yn hapus i helpu gydag ymholiadau ac anghenion y cwsmeriaid. Mae Mathew wrth law i drafod ymholiadau cyffredinol, megis bwcio ystafelloedd, gwybodaeth i dwristiaid a’r gwasanaethau swyddfa sydd ar gael i’r cyhoedd. Mae Mathew yn goruchwylio gwaith cynnal a chadw a diogelwch y Ganolfan hefyd.

Siân Tucker
Siân Tucker yw’r Swyddog Datblygu Strategol, a hi sy’n goruchwylio holl waith y Ganolfan a Bwyty’r Mynydd Du. Mae hi bob amser yn gyfeillgar ac yn fodlon helpu.
Tîm y Bwyty
Lisa Thomas Catrin Morris
Mae ein Cogydd, Lisa Thomas a’n Cynorthwy-ydd Gwasanaethu’r Cwsmer, Catrin Morris yn cydweithio i greu dewis rhagorol o brydau bwyd cartref traddodiadol, byrbrydau a phwdinau. Dewch i Fwyty gwych y Mynydd Du, lle y cewch groeso gan ein staff cyfeillgar a lle byddwch yn sicr o gael pryd o fwyd i dynnu dwr o’ch dannedd.