Bwyty'r Mynydd Du

Mae ein caffi ar agor trwy gydol y flwyddyn, yn gweini bwyd cartref maethlon. Ein nod yw cynnig bwyd o ansawdd mewn lleoliad deniadol, a ‘rydym yn gobeithio y byddwch chi’n dod i ymweld â ni cyn bo hir.

      

‘Rydym ar agor ar gyfer brecwast, cinio, byrbrydau neu dim ond cwpaned o de a theisennau cartref, a’r cyfan wedi’i gyflwyno mewn awyrgylch gyfeillgar, groesawus.

Mae tîm y caffi yn cynnwys staff a gwirfoddolwyr ymroddgar sydd wastad yn hapus i helpu. Mae ein Cogydd, Lisa Thomas a’n Cynorthwy-ydd Gwasanaethu’r Cwsmer, Catrin Morris yn dîm rhagorol, sy’n creu prydau bwyd newydd a chyffrous yn wythnosol.

‘Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 10yb nes 2yp.

Mae’r caffi ar agor am frecwast bob bore Sadwrn rhwng 9:00yb a 11.30yb.

Trïwch ein brecwast blasus, gan ddechrau gyda brecwast bach am ddim ond £3.45!

Neu fel arall, cewch balu eich ffordd trwy frecwast mawr am £4.95, neu frecwast adeiladwr (15 eitem) am £5.95.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Ganolfan ar 01269 823400.

                            

       

 

Oriau Agor

Dydd Llun i ddydd Gwener 10yb – 2yh

Dydd Sadwrn 9:00yb - 11:30yb (Brecwast yn unig)