Calendr y Gymuned
Ymunwch a 'Weight Watchers' yng Nghanolfan y Mynydd Du!
Ymunwch y grwp bob Dydd Iau, 5yh- 7yh.
CALCH: Dathlu Treftadaeth Diwydiannol y Mynydd Du
Mae CALCH yn fenter ar y cyd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chanolfan y Mynydd Du. Gyda chyfranogiad cymunedau lleol, bydd CALCH yn ail-ddarganfod, yn diogelu ac yn dathlu rôl y diwydiant calch yn natblygiad Cymru fel gwlad ddiwydiannol.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Menna Bell yn Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed yn
m.bell@dyfedarchaeology.org.uk neu 01558 825997, os gwelwch yn dda.
Swmba
Dawnsiwch eich ffordd i ffitrwydd. Ymunwch a dosbarth Swmba yng Nghanolfan y Mynydd Du.
Dewch pob Dydd Mawrth, 6:15yh -7:15yh
Galwch y Ganolfan o flaen llaw ar 01269 823400 i sefydlu eich lle.
Cadw'n Heini
Dewch i Cadw'n Heini pob Dydd Iau, 1yp - 2yp.
Galwch y Ganolfan ar 01269 823400 o flaen llaw i sefydlu eich lle.
Ymunwch â’r Feddygfa Cyfrifiaduron
Oes eisiau help arnoch chi i ddysgu sgiliau THCh sylfaenol?
Licech chi gael cefnogaeth un-i-un i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ar y cyfrifiadur?
Gallwn ni eich helpu gyda...
· Rheoli Ffeiliau
· Defnyddio Pecynnau Word
· Ebost
· Syrffio’r ryngrhwyd
· defnyddio cyfryngau cymdeithasol
Dysgwch yn eich amser eich hun mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.
Bydd y Feddygfa Gyfrifiaduron yn cael ei chynnal bob yn ail ddydd Llun rhwng 10.30yb a 12:30yh yng Nghanolfan y Mynydd Du. Rhaid gwneud apwyntiad ymlaen llaw. I gadw’ch lle, ffoniwch Pauline ar 01269 823400.
Y Clwb Gwaith
Oes eisiau help arnoch chi i ceisio am waith?
Licech chi cefnogaeth un-i-un i'ch helpu i ddatblygu sgiliau ac i dderbyn cymorth wrth lenwi ffurflenni a chwilio am waith!
Dewch i Clwb Gwaith Canolfan y Mynydd Du.
Mae allgymorth wythnosol ar gael, sef Gwasanaeth Canllawiau i Oedolion a ddarperir gan Sarah Martin, Gyrfaoedd Cymru. Mae Sarah wrth law bob dydd Mawrth o 9:30yb tan 12:30yh. Dewch i’w gweld am gyngor a chefnogaeth anffurfiol a chyfrinachol am gynllunio gyrfa, cefnogaeth wedi diswyddiad, ysgrifennu CV, ceisiadau am swydd, gwirfoddoli ac addysg uwch
Rhaid gwneud apwyntiad ymlen llaw. I gadw'ch lle, ffoniwch Pauline ar 01269 823400.
Os licech chi ychwanegu unrhyw ddyddiadau at y calendr, ebostiwch ni yn admin@black-mountain.org.uk os gwelwch yn dda.