Cyfleoedd Gwirfoddoli
Gall gwirfoddoli fod yn ffordd werth chweil, heriol a delfrydol o ennill profiad mewn gwahanol feysydd.
• Oes unrhyw amser sbâr gyda chi?
• Ydych chi am ychwanegu unrhywbeth at eich CV?
• Ydych chi am ddysgu sgiliau newydd?
• Ydych chi am uwchraddio unrhyw sgil neu allu penodol?
• Licech chi ddefnyddio’ch sgiliau i helpu pobl eraill?
‘Rydym yn gwerthfawrogi holl waith caled, ymdrech ac ymroddiad ein gwirfoddolwyr yma yn y Ganolfan, ac ‘rydym yn ffodus iawn o wasanaeth grwp o wirfoddolwyr sy’n ein cefnogi yn wythnosol. Mae ffrindiau Canolfan y Mynydd Du yn cyfranogi at nifer o weithgareddau yn y Ganolfan, gan gynnwys ein clwb cinio wythnosol!
Yn ddiweddar, mae Susan Preston a John Jones wedi ymuno â ni. Mae Susan a John yn gweithio yn y Ganolfan diolch i raglen Workways. Wedi iddynt fod yn gwirfoddoli am nifer o fisoedd, mae Susan a John ill dau wedi derbyn swyddi yn y Ganolfan.
‘Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o fudiadau er mwyn rhoi profiad gwirfoddoli i unigolion, profiad a fydd efallai’n arwain at swydd yn y dyfodol.
Yn y dyfodol agos, bydd y tîm datblygu yn sefydlu cynllun bancio amser. Os oes gennych sgiliau arbenigol- e.e. crosio, garddio, gwnio, aml-gyfrwng, ffotograffiaeth - cofrestrwch nhw yn y Ganolfan os gwelwch yn dda.
Fel arall, os licech chi wirfoddoli yn ein caffi, cysylltwch â Siân Tucker neu aelod arall o staff yn y dderbynfa, os gwelwch yn dda.
Ffôn: 01269 823400.
Cofiwch, beth bynnag yw eich sgiliau neu eich diddordebau, mae eich angen chi fel gwirfoddolwr arnon ni!