Dosbarthiadau a Chyrsiau

GRWPIAU, DOSBARTHIADAU A CHYRSIAU NEWYDD YN 2012

Mae Canolfan y Mynydd Du yn cydweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe i gynnig cyrsiau Diploma a Gradd mewn TG, ac hefyd y Rhaglen Radd rhan-amser BA Dyniaethau. Mae’r dosbarthiadau, gweithgareddau a gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys TG i ddechreuwyr, Ffotograffiaeth Ddigidol, Clwb Cerdded, Cymdeithas y Rhandiroedd, cyrsiau Cymorth Cyntaf, cyrsiau Hylendid Bwyd, Dawnsio Llinell i ddechreuwyr, gweithdai Creu Hyder, Cyngor ar Bopeth, Undeb Gredyd, Ffrindiau Canolfan y Mynydd Du (Grwp Gwirfoddol) a llawer yn rhagor!!!

Mae Canolfan y Mynydd Du yn gweithio tuag at fod yn Ganolfan Ragoriaeth mewn Addysg. ‘Rydym yn falch i gydweithio gyda phartneriaid fel Prifysgol Abertawe, er mwyn darparu, i’n cymuned, cyfleoedd ardderchog ym maes addysg i oedolion, ac wrth ein boddau y bydd y Cwrs Gradd TG newydd ar gael yn y Ganolfan o fis Medi 2011 ymlaen.

‘Rydym yn teilwra’n cyrsiau at anghenion unigolion ac yn sicrhau bod rhywbeth ar gael i bawb.

Mae ein canllaw hyfforddi ar gyfer 2011 ar gael yn y Ganolfan.

 

Y Stiwdio

'Rydym yn cynnig nifer o wasanaethau a dosbarthiadau lles a iechyd gan gynnwys Yoga, Swmba, Dawnsio Llinell a Cadw'n Heini.

Mae gan Ganolfan y Mynydd Du ystafell aml-bwrpas newydd a fydd yn cael ei defnyddio i ychwanegu at ein gweithgareddau iechyd a lles.

Am wybodaeth bellach, dilynwch y linc yma: Whats on at the Studio

Diploma mewn Technoleg Bellach, AABO, Prifysgol Abertawe

Cynhelir cyrsiau LIFT a DIFT yn y Ganolfan bob dydd Llun, dydd Mercher a dydd Iau.

Cynhelir diwrnod agored yn y Ganolfan ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 19eg  rhwng 11yb ac 1yh, i roi cyfle i fyfyrwyr newydd gofrestru.

Am wybodaeth bellach ewch i’r wefan isod: http://www.eclswansea.com/

 

 

 

 

 

Beth licech chi weld yn digwydd yn y Ganolfan? Dwedwch eich dweud! Cysylltwch a ni gyda'ch syniadau os gwelwch yn dda.

 

 

Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Ganolfan ar 01269 823400, neu ebostiwch ni yn admin@black-mountain.org.uk