Grwpiau Cymunedol
Clwb Cinio y Mynydd Du
Mae aelodau’r clwb cinio yn cwrdd bob dydd Llun rhwng 12 a 2 yh i fwynhau pryd o fwyd tri chwrs, a chwmni pobl eraill. Bob wythnos bydd y tîm datblygu yn cynnal raffl, cwis a gêm bingo. Yn aml bydd siaradwyr neu berfformwyr gwadd yn ymuno â’r grwp. Ar hyn o bryd, ‘rydym yn adolygu pris y cinio, ond byddwn yn cadw’r pris yn rhesymol.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ymuno â’r Clwb Cinio, ffoniwch y Ganolfan ar 01269 825987.
Fel arfer, gallwn drefnu cludiant ar eich rhan.
Mae Clwb Cinio Canolfan y Mynydd Du, sy’n cael ei gydgysylltu gan aelod o staff, gyda chymorth Sarah Hopkin, Catherin Goss a Rita Jones, yn wasanaeth allweddol i drigolion hyn Brynaman, ac mae’r cyfranogwyr yn gweld gwerth y gwasanaeth gan ei fod yn rhoi cyfle iddynt fod yn rhan o’r gymuned. ’Rydym yn gobeithio y gall y gwasanaeth barhau, ond mae angen gyrrwyr gwirfoddol arnom ar frys, i’n helpu i gludo aelodau’r clwb i’r Ganolfan ac i fynd â nhw adre’. Ffoniwch 01269 823400 os gallwch chi gynnig cymorth, os gwelwch yn dda.
Clwb Cerdded y Mynydd Du
Mae Clwb Cerdded y Mynydd Du yn mentro allan bob yn ail ddydd Mawrth am 4yh. Mae’r arweinyddes brofiadol, Teri Darnbrook wedi’i chymhwyso i arwain grwpiau mawr o bobl ar amrywiaeth o lwybrau drwy ddyffrynnoedd hyfryd Cymru. Os ‘dych chi’n ddechreuwr, gallwch ymuno â Teri ar nos Fawrth am daith gerdded o’r Ganolfan.
Dewch i ymweld â ni am wybodaeth am deithiau yn y dyfodol agos, ac am lwybrau’r teithiau.
Clwb Garddio Brynaman
Mae Clwb Garddio Brynaman yn cwrdd yn y Ganolfan, gan gyfarfod bob mis ar ail nos Fercher y mis am 7.00yh. Mae rhaglen lawn wedi’i threfnu ar gyfer yr aelodau, gyda’r digwyddiadau yn cynnwys siaradwyr gwadd, sioeau ffilm a theithiau i erddi diddorol a sioeau garddio cenedlaethol. Mae’n gyfarfod byrlymus, cymdeithasol sy’n dod â phobl sy’n ymddiddori mewn garddio a’r amgylchedd at eu gilydd. Mae’r pris tanysgrifio am flwyddyn - £8.00 – yn fargen heb ei hail. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Teri Darnbrook. Gallwch gael ei rhif ffôn hi oddiwrth Pauline Thomas yn nerbynfa’r Ganolfan.
Grwp Treftadaeth Brynaman
Mae Treftadaeth Brynaman yn grwp hir-sefydlog sydd a’i “bencadlys” yn llyfrgell Canolfan y Mynydd Du. Mae’r grwp yn frwdfrydig iawn ac maen nhw eisoes wedi cynnal nifer o brosiectau hanes lleol; gallwch weld canlyniadau’r prosiectau hyn wedi’u harddangos gyda balchder yn y Ganolfan Gymunedol. Ar hyn o bryd, mae un aelod yn cydgysylltu casgliad o ffotograffau sy’n dangos priodasau ym Mrynaman, ac wedi casglu at ei gilydd casgliad gwych o ffotograffau, gwahoddiadau, a biliau ac hyd yn oed ffrog briodas ddu yn dyddio’n ôl i 1890. Mae gan y grwp ddau ddeg naw aelod, er taw dim ond deg o’r rhain sy’n aelodau gweithgar o’r grwp. Ar ran prosiect Archifau Cymunedol Cymru, mae’r grwp yn awyddus i ymchwilio i natur newidiol siopau a busnesau Brynaman dros y ganrif ddiwethaf, ac mae ganddynt gasgliad helaeth o ffotograffau, penawdau bil, llythyron ac arteffactau i'w digideiddio. Mae’r grwp yn cwrdd bob trydedd nos Fercher y mis, am 7yh. Am ragor o wybodaeth, ac i wybod sut y gallwch fod yn rhan o’r gweithgareddau, ffoniwch Colin Jones ar 01269 822876.
Clwb Celf y Mynydd Du
Mae Clwb Celf y Mynydd Du yn grwp sefydlog iawn, ac mae’r aelodau yn cyfarfod yn y Ganolfan bob dydd Mercher, o10yb tan 2yh. Mae awyrgylch y dosbarth yn anffurfiol iawn ac mae croeso i unigolion o bob gallu, gyda’r tiwtor, Sue Crossman Jones, wrth law i gynnig cefnogaeth ac arweiniad. Mae’r sesiwn wythnosol yn gyfle i ddysgu, i gymdeithasu ac i rannu technegau.
O bryd i’w gilydd bydd y grwp yn ymgymryd â phrosiectau cydweithredol. Lansiwyd prosiect diweddaraf y grwp, ‘ Hud a Lledrith’ ar ddydd Gwener Mehefin 17, 2010. Mae’r gwaith yn cael ei arddangos yn y Ganolfan ar hyn o bryd.
Mae cardiau cyfarch ar werth yn y Ganolfan, pris £2.00 yr un.

Scribes R Us
Wedi’u lleoli yng Nghanolfan Gymdeithasol Brynaman, mae gwreiddiau’r grwp yma yn y grwp ysgrifennu creadigol a ffurfiwyd gan Adran Addysg Barhaus i Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe. Penderfynnodd yr aelodau gario ymlaen i gydweithio a chyhoeddi eu gwaith eu hunain. Maen nhw wedi bod wrthi am bedair blynedd, ac yn yr amser hwnnw wedi cyhoeddi saith llyfr o’i gwaith eu hunain ac o waith awduron lleol eraill.
Mae’r grwp yn edrych ymlaen at y prosiect nesaf. Eu bwriad yw casglu straeon ffeithiol o hanes yr ardal oddiwrth pobl lleol, troi’r storïau’n ffuglen a chyhoeddi’r canlyniadau ar ffurf llyfr.
Mae’r grwp yn cwrdd yn wythnosol ar brynhawn dydd Iau am 2yh. Am wybodaeth bellach ebostiwch scribesrus1@aol.com os gwelwch yn dda, neu ewch i’w gwefan yn www.scribesrus.co.uk.
Mess Up The Mess
Mudiad di-elw yw MUTM sydd wedi ei sefydlu er mwyn cynnig profiadau theatr deinamig i bobl ifanc, i roi mwy o gyfleoedd i ymarferwyr theatr sydd newydd raddio ac i greu cwmni cynhwysol ar gyfer theatr arloesol a fydd yn estyn allan i gynulleidfaoedd amrywiol newydd, gan ddod â bywyd newydd i‘r theatr yn Sir Gaerfyrddin a thu hwnt. Os licech chi ddysgu rhagor am y grwp, a’r math o wasanaeth y maent yn cynnig, ewch i’w gwefan www.messupthemess.co.uk neu gysylltwch ag info@messupthemess.co.uk.