Llogi Ystafell
Rhif yr Ystafell |
Math o Ystafell |
Uchafswm y Dirprwyon |
Laptop |
Projectorr |
DVD/VHS |
1 |
50 |
|
|
|
|
2 |
40 |
|
|
|
|
3 |
50 |
|
|
|
|
4 |
11 |
|
|
|
|
5/6 |
2 / 4 |
|
|
|
Darllenwch ein Telerau ac Amodau cyn galw, os gwelwch yn dda.
Profwch y gefnogaeth a’r hyblygrwydd sydd ei angen arnoch chi i sicrhau bod eich cynhadledd, cyfarfod, seminar neu ddiwrnod hyfforddi yn brofiad di-drafferth a phleserus. Canolfan y Mynydd Du yw’r lleoliad perffaith ar gyfer ystod eang o anghenion busnes. ‘Rydym yn cynnig cyfuniad o ystafelloedd cynnal digwyddiadau, o ystafelloedd bwrdd i ystafelloedd cynadledda ar gyfer hyd at 50 cynrychiolydd, wedi’i gyfannu gyda staff cymwynasgar, dwyieithog. Mae gennym bopeth sydd ei angen i wneud eich digwyddiad yn un arbennig, gan gynnwys arlwyo a fydd yn tynnu dwr i’ch dannedd, a’r cyfan wedi’i deilwra yn arbennig ar gyfer eich gofynion penodol chi.
Mae ein hystafelloedd yn cynnwys offer clyweledol, sgriniau a thaflunyddion o'r radd flaenaf.
Mae ‘na ddewis o ystafelloedd addas at ddigwyddiadau busnes llai ar gael yn y ganolfan. Mae ein hystafell bwrdd ar gael ar gyfer eich cyfarfodydd bach neu seminarau hyfforddi, y dderbynfa ar gyfer rhwydweithio a lluniaeth, a byddai bwyty’r Mynydd Du yn lle delfrydol i gynnal cinio busnes pwysig, neu ddigwyddiad rhwydweithio neu lansiad gyda’r hwyr.
Bydd ein staff croesawgar yn gwneud yn siwr taw’r unig beth sydd rhaid i chi i wneud yw canolbwyntio ar gael y gorau o’ch digwyddiad busnes.
Allwedd
Ar gael
Ar gael ar gais (yn ôl argaeledd – codir pris ychwanegol)
Ddim ar gael
Mae’r ffurflen fwcio i’w gweld yma