Llyfrgell Gymunedol
Mae’r llyfrgell gymunedol yn cynnig dewis eang o lyfrau, DVDau a CDau i ddiddori unigolion o bob oedran a gallu. Yn ogystal, mae gan y llyfrgell ystafell gyfrifiaduron y gall cwsmeriaid ddefnyddio yn ystod oriau agor y llyfrgell.
Ymunwch â’r llyfrgell – casglwch eich cerdyn aelodaeth heddiw!
Oriau Agor / Library Opening Hours
| Dydd Llun | 3:00yp - 5:00yh | Monday |
| Dydd Mawrth | 9:30yb - 12:00yp | Tuesday |
| Dydd Mercher | 9:30yb - 11:30yb 3:00yp - 5:00yh |
Wednesday |
| Dydd Iau | 5:30yh - 7:00yh | Thursday |
Rhif Ffôn - 01269 824053 -
Mae’r Llyfrgellydd, Jackie Davies wrth law i roi gwybodaeth ac arweiniad, ac i ateb eich ymholiadau.
Mae’r llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o ffuglen - mewn print maint arferol a phrint bras - i siwtio pawb, gan gynnwys llyfrau trosedd, arswyd a ffuglen wyddonol. Mae’r adran ffeithiol yn cwmpasu y rhan fwyaf o bynciau, ochr yn ochr ag amrywiaeth o fywgraffiadau.
Mae llyfrgell y plant yn cynnwys llyfrau i blant bach, i blant iau ac i bobl ifanc yn eu harddegau, yn ogystal â stoc da o lyfrau ffeithiol ar gyfer plant iau. Mae llyfrau llafar ar gael hefyd.