Twristiaeth

Dewch i ymweld a Chanolfan Groeso Canolfan y Mynydd Du heddiw!
Yn ddiweddar, ‘rydym wedi adnewyddu’n canolfan groeso gan ddefnyddio arian a dderbyniwyd oddiwrth Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyngor Sir Caerfyrddin. Cawsom gyfanswm o £10,000 o arian grant o’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy ac o’r Gronfa Twristiaeth Gymunedol Gynaliadwy. ‘Rydym wedi uwchraddio’r dderbynfa gyda chelfi pwrpasol, cyfrifiaduron sgrin gyffwrdd, arwyddion a chyfres o fapiau wedi’u gosod ar y wal. Ein nod yw darparu gwledd o wybodaeth a chyngor i’r ymwelydd, yn amrywio o daflenni a chanllawiau poced hyd at bosteri, mynediad at y rhyngrwyd, gwybodaeth leol ac arbenigedd.
CALCH: Dathlu Treftadaeth Diwydiannol y Mynydd Du
Mae CALCH yn fenter ar y cyd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chanolfan y Mynydd Du. Gyda chyfranogiad cymunedau lleol, bydd CALCH yn ail-ddarganfod, yn diogelu ac yn dathlu rôl y diwydiant calch yn natblygiad Cymru fel gwlad ddiwydiannol.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Menna Bell yn Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed yn m.bell@dyfedarchaeology.org.uk neu 01558 825997, os gwelwch yn dda.
Ym mis Ebrill, cynhaliwyd Hyfforddiant Llysgenhadon Twristiaeth Gymunedol Parc Rhanbarthol y Cymoedd yng Nghanolfan y Mynydd Du
Mae Llysgenhadon Twristiaeth Gymunedol yn bwysig wrth i ni ddatblygu’r Cymoedd i fod yn gyrchfannau twristiaid. Bydd y Llysgennad yn cynrychioli’r Cymoedd ac yn dylanwadu ar yr ymwelwyr, i wneud iddynt aros, ac i wario eu harian yn ein cymuned. Mae'r hyfforddiant hwn wedi galluogi’r Llysgenhadon i fod yn ffynhonnell wybodaeth yn y gymuned, er mwyn iddynt cynnig cyngor cymwynasgar, cywir a chyfeillgar.
Cyfeiriadau Defnyddiol
Brynaman
Sinema Neuadd Gyhoeddus Brynaman www.brynammanpublichall.co.uk
Pwll Nofio Brynaman
Trelau Beicio SUSTRANS
Teithiau cerdded pentref Aman a Llwchwr
Gwarchodfa Natur Ynys Dawela
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog http://www.breconbeacons.org/
Mae Bannau Brycheiniog yn rhan brydferth o Gymru, gyda’i drefi marchnad traddodiadol, tirlun syfrdanol, llwybrau camlesi, cestyll a digon o atyniadau i’r teulu cyfan. Mae’r tirlun yn brydferth ac yn amrywiol – o gefn gwlad a dyffrynoedd ymdonog a mannau agored eang i harddwch gwyllt y rhaeadrau a’r ogofau.
Yn ogystal, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnal rhaglen ardderchog o Deithiau Tywys a Digwyddiadau.
Pethau i’w gweld ac i’w gwneud yn Sir Gâr http://www.visitcarmarthenshire.co.uk
Llety Talarbongam
Mae Talarbongam yn dy trawiadol, sy’n sefyll ar ei ben ei hun ar dyddyn 4 erw ym mhentref Brynaman. Yma, bydd gan westeion rhyddid i fwynhau erw o dir, ac i ddefnyddio llwybr cerdded sy’n arwain yn uniongyrchol at y Mynydd Du ac i’r Parc Cenedlaethol. Mae’r ty wedi’i wresogi gan wres canolog olew, ac yn cynnwys lolfa, cegin, ystafell fwyta ac ystafell gawod/aml bwrpas lawr llawr, gyda dwy ystafell wely ddwbl, un ystafell gwelyau gefell ac ystafell ymolchi lan llofft. O fewn cyrraedd agos i Dalarbongam mae nifer o dafarnau a siopau cludfwyd, sinema, pwll nofio awyr agored a Chanolfan y Mynydd Du gyda’i wybodaeth i dwristiaid ac arddangosfeydd treftadaeth.
Prisoedd
Gwely a Brecwast:
Ystafell Sengl £25.00
Ystafell Ddwbl £45.00
Llogi’r Ty cyfan:
Tymor Prysur - £650
Tymor Tawel - £400
Ffôn: 01269 823942
Ebost: lyndabryce@aol.co.uk
Bwthyn Arosfa 4 Seren (Bwrdd Croeso Cymru)
I gysgu rhwng 1 a 4 person mewn dwy ystafell wely, £230 yr wythnos / tymor tawel: £360 yr wythnos/ tymor prysur.
19 Heol Rhosfa
Brynaman
Sir Gaerfyrddin
SA18 1DF
Ffôn: 01269 822953 Symudol: 07757 109115
Fferm Pentwyn
Heol y Mynydd
Brynaman
Sir Gaerfyrddin
SA18 1AN
Tregib Arms
Heol Cwmgarw
Brynaman
Rhydaman
