Yr Oriel

Clwb Celf Y Mynydd Du Arddangosfa y Gaeaf : Gwaith celf gwreiddiol yn dangos golygfeydd o arfordir Cymru.  Derbynnir cynigion mewn amlenni yn y dderbynfa yng Nghanolfan y Mynydd Du.  Lleiafswm o £50.  Dyddiad cau ar-Rhagfyr 15fed.  Elw at Ganolfan y Mynydd Du.

 

Clwb Celf y Mynydd Du

Mae’r oriel yn arddangos gwaith Clwb Celf y Mynydd Du yn aml. Yn fyrlymus, yn befriog ac yn llawn brwdfrydedd, mae’r grwp lleol hwn o unigolion o’r un anian wedi cael eu hysbrydoli gan broffesiynoldeb a thalent eu mentor.  Mae’r pleser y maent yn cael wrth ddatblygu eu sgiliau yn amlwg o’r amrywiaeth o bynciau a chyfryngau y maen nhw’n eu defnyddio. Drwy daflu syniadau o gwmpas, maen nhw wedi gwthio ffiniau yr hyn ‘roeddent yn disgwyl ei gyflawni i ddatblygu i fod yn artistiaid hyderus. 

Mae’r oriel wedi ei lleoli ger y brif fynedfa mewn ardal bwrpasol gyda tho uchel, wedi’i oleuo’n dda, sy’n cael ei rhannu gydag ardal arddangos wydr y Grwp Treftadaeth. Dyma un o’r prif atyniadau  i ymwelwyr a phobl lleol fel eu gilydd, gan fod seddau meddal ar gael i ymlacio ynddynt tra’n astudio’r arddangosfeydd creadigol.

 

'Rydym wedi ymestyn yr Oriel!  

Yn ddiweddar, ‘rydym wedi ymestyn yr oriel i gynnwys Ystafell 2. Ystafell 2 yw un o’n prif ystafelloedd ymgynnull, ac mae’n cael ei defnyddio gan nifer o grwpiau cymunedol lleol. Mae’r arddangosfa bresennol yn canolbwyntio ar ystod o luniau a grewyd gan Glwb Celf y Mynydd Du.

Dyma ychydig o’r lluniau a gynhyrchwyd gan y grwp...

   

  

 

Ebrill April Kimberley Collins a Jonathan Davies
Mai May Arddangosfa gan Susan Crossman-Jones
Mehefin June Clwb Camera Dyffryn Amman
Gorffennaf July Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed
Awst August Arddangosfa gan Mathew Williams